Beichiogrwydd ac alcohol
Efallai dy fod eisoes wedi dechrau bwyta’n iachach i wneud yn siŵr dy fod yn cael y cydbwysedd iawn o faethynnau. Ond hefyd bydd peidio yfed yn ystod beichiogrwydd yn helpu’r babi i ddatblygu a thyfu’n normal.
Menywod sy’n ceisio beichiogi
Dydyn ni ddim yn gwybod yn union pa lefel o alcohol fydd yn lleihau dy siawns o feichiogi, ond rydyn ni’n gwybod bod yfed yn drwm yn gallu effeithio ar dy fisglwyf. Efallai y byddi’n ei chael yn fwy anodd beichiogi hefyd.
Os wyt yn ceisio beichiogi ac am gael gwared ar unrhyw risgiau o alcohol i’r babi pan fyddi yn beichiogi (gan gynnwys mwy o risg o golli’r babi sy’n gysylltiedig ag yfed yn ystod tri mis cyntaf beichiogrwydd) dylet osgoi yfed yn gyfan gwbl. Ond os wyt yn yfed, er mwyn lleihau’r risg i’r babi y cyngor yw na ddylet yfed mwy nag un neu ddwy uned o alcohol, heb fod yn amlach nag unwaith neu ddwywaith yr wythnos. Paid meddwi.
Dynion sydd am gael babi
Hefyd, dylai dynion sydd am gael babi feddwl faint o alcohol maen nhw'n ei yfed. Gallai alcohol niweidio'r celloedd sy'n cynhyrchu sberm ac effeithio ar dy afu/iau - gallai hyn effeithio ar lefel yr hormonau a ffrwythlondeb. Gall yfed yn drwm achosi anallu rhywiol mewn dynion am gyfnod byr.
Faint o alcohol alla i ei yfed pan fydda i’n feichiog?
Os wyt yn feichiog ac yn yfed, bydd alcohol yn cael ei drosglwyddo o dy waed di, drwy’r brych, i’r babi. Gan fod y babi’n dal i ddatblygu, nid yw’n gallu prosesu alcohol gystal â thi, a gall gormod o alcohol effeithio’n ddifrifol ar ei ddatblygiad. Felly, dylet osgoi yfed alcohol os wyt yn feichiog neu’n ceisio beichiogi.
Os wyt yn cael diod, gelli leihau’r risg i’r babi drwy beidio yfed dim mwy nag un neu ddwy uned o alcohol unwaith neu ddwywaith yr wythnos, a phaid meddwi. Cyngor NICE (y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol) i fenywod sy’n feichiog yw osgoi alcohol yn llwyr yn y tri mis cyntaf yn enwedig, oherwydd bod mwy o risg o golli’r babi bryd hynny.
Ond gall alcohol effeithio ar dy fabi yn ystod holl gyfnod y beichiogrwydd. Mae pawb yn gwybod bod yfed alcohol yn drwm yn ystod beichiogrwydd yn gallu arwain at blant sy’n fach am eu hoedran, yn dioddef o annormaleddau ar yr wyneb, problemau ymddygiadol, neu gyfuniad o’r rhain. Ond gall un neu ragor o’r problemau hyn ddigwydd hefyd os yw’r fam wedi bod yn yfed lefelau llai o alcohol. Po leiaf rwyt yn ei yfed, lleiaf yw’r risgiau sy’n debygol.
Cyfnewid diodydd yn ystod beichiogrwydd
Dyw bod yn feichiog ddim yn golygu dim cymdeithasu! Os wyt allan gyda ffrindiau sy’n yfed, yn lle dy ddiod arferol gelli yfed fersiwn ddi-alcohol, neu goctel di-alcohol.
Os wyt wedi arfer cael diod i ymlacio, gallet roi cynnig ar weithgareddau newydd wrth i’r bol dyfu. Cymryd bath llawn swigod, darllen cylchgrawn, gwrando ar gerddoriaeth, neu gerdded yn y parc – a gall hyn fod yn rhatach nag yfed.
Ar y cyfan, byddi’n teimlo’n hapusach ac yn iachach os nad wyt yn yfed pan wyt yn feichiog. A byddi’n fwy tebygol o fod yn barod pam ddaw’r diwrnod mawr.
