Cyfnewid maint prydau
Y broblem y dyddiau hyn yw bod prydau mawr ar gael yn hawdd. Yn aml, a heb sylweddoli hynny, rydyn ni’n bwyta gormod ond ddim yn llosgi’r egni wedyn.
6 awgrym am brydau mwy iach
Does dim rhaid i ti roi'r gorau i bopeth rwyt yn ei hoffi – dechreua drwy gyfnewid ambell beth! Rho gynnig ar yr awgrymiadau hyn i osgoi bwyta gormod o galorïau - bydd cadw at y newidiadau syml hyn yn dy hepu i gyrraedd pwysau iach.
Defnyddio platiau llai
Trwy ddefnyddio plât llai yn lle un mawr, bydd y pryd bwyd yn llai (a bydd hefyd yn edrych fel pe bai gen ti fwy o fwyd).
Bwyta mwy o ffrwythau a llysiau
Gwna’n siŵr bod dy ddeiet yn llawn ffrwythau a llysiau yn lle bwyd llawn braster neu siwgr. Ceisia lenwi un rhan o dair o’r plât â llysiau. Neu newidia un pryd mawr am bryd llai, a chael ffrwythau i bwdin.
Bwyta’n arafach gan ganolbwyntio
Mae'n cymryd amser i’r ymennydd sylweddoli bod y stumog yn llawn, felly ceisia fwyta'n arafach. Os wyt ynbwyta gyda ffrindiau neu deulu, ceisia fwyta ar yr un cyflymder â’r un sy’n bwyta arafaf. Wrth fwyta’n ddifeddwl o flaen y teledu, rydyn ni’n bwyta mwy heb sylweddoli, a heb ei fwynhau hyd yn oed. Eistedda wrth y bwrdd, nid o flaen y bocs.
Rhannu bwyd wedi’i becynnu
Mae llawer o fwydydd a diodydd yn cael eu pecynnu ar gyfer eu rhannu, felly os byddi’n bwyta ar dy ben dy hun ceisa osgoi temtasiwn, gan arbed ychydig ar gyfer y tro nesaf. Trwy roi snaciau mewn dysgl a chadw’r gweddill, byddi’n fwy tebygol o fwyta llai.
Llai yn lle mwy
Mae latte neu cappuccino mawr gyda llaeth cyflawn yn ymddangos yn fargen, ond mae mwy o galorïau ynddyn nhw hefyd. Beth am roi cynnig ar baned ganolig o goffi, gyda llaeth braster isel? Llai o galorïau (a llai o wario hefyd!)
Bydd yn fodlon, nid yn folgi
Wrth archebu tecawê, dewisa un llai, nid un enfawr – a’r un peth gyda phrydau parod. Yn y tŷ, ceisia fod yn fodlon ag un platiaid o fwyd, a phaid mynd i nôl rhagor.
