Cracio’r snacio
Mae llawer o snacs yn llawn siwgr, braster, calorïau a halen – yr holl bethau na ddylen ni fwyta gormod ohonyn nhw.
Does dim rheolau pendant ynglŷn â faint yw ‘gormod’ o snacs, ond mae llawer o deuluoedd yn gweld bod cael rheol ynglŷn â snacs yn helpu i wneud yn siŵr nad yw’r plant yn bwyta gormod ohonyn nhw.
Cadw cownt
Yn aml bydd teuluoedd yn synnu ar ôl cyfri faint o felysion, creision a bisgedi maen nhw’n eu bwyta, a faint maen nhw’n ei wario ar snacs.
Beth am gadw dyddiadur snacs? Bydd hynny’n helpu’r teulu i fwyta llai ohonyn nhw - a bydd hynny’n dda i’r plant ac i’r pwrs!
Tri phryd rheolaidd
Os yw plant yn cael 3 phryd bwyd y dydd, ddylai bod dim angen llawer o snacs arnyn nhw. Os yw dy blant yn chwilota yn y cwpwrdd snacs ac yn y tun bisgedi sawl gwaith y dydd, meddylia eto pa brydau bwyd y maen nhw’n eu cael, a faint o’r gloch, ac anela am 3 phryd rheolaidd bob dydd.
Dim mwy na dau snac!
Mae rhai teuluoedd yn gweld bod cadw at y rheol ‘dim mwy na 2 snac y dydd’ yn help – un yn y bore ac un yn y prynhawn.
Un o’r pump
Os yw un o’u snacs yn un iach, gorau oll! Yn lle bisged, beth am ddarnau o ffrwythau – melon, mefus, pîn-afal, neu beth bynnag sydd ar gael. Mae hynny’n ffordd wych i’r plant anelu at eu 5 y dydd.
Dewis dŵr
Os byddan nhw’n gofyn am ragor o snacs, a tithau’n meddwl eu bod wedi cael gormod, efallai mai syched sydd arnyn nhw ac nid awydd bwyd. Rho ddŵr neu laeth braster isel (llaeth sgim, hanner sgim neu 1%, os yw’r plant dros 5 oed).
Mae’n well dweud ‘na’
Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn hoffi gwneud ein plant yn hapus. Ond yn y pen-draw mae’n fwy llesol i ddweud ‘na’ i ormod o snacs. Ceisia feddwl am ffyrdd eraill o’u gwobrwyo, fel rhoi sticeri iddyn nhw neu fynd â nhw am dro i’r
