Skip to content

Cefnogwyr

 

Cefnogwyr

Mae cael teuluoedd i newid eu ffordd o fyw yn her. Ond maen nhw’n fwy tebygol o wneud hyn gyda dy help di.

Wyt ti’n gweithio ym maes gofal iechyd neu ofal plant? Neu i awdurdod lleol neu elusen? Wyt ti’n rhedeg busnes – yn lleol neu’n genedlaethol? Neu a hoffet ti helpu pobl dy ardal i fod yn fwy iach?

Mae ein rhwydwaith o fwy na 700 o gefnogwyr lleol ledled Cymru yn defnyddio Newid am Oes i ledaenu’r neges am fyw’n fwy iach yn eu cymunedau lleol.

Cofestru

Mae gennym lwyth o adnoddau rhad ac am ddim – gan gynnwys taflenni, posteri a ffurflenni noddi. Bydd y rhain i gyd yn helpu’r gwaith o gyflwyno syniadau am ddeiet iach a gweithgareddau.

Bydd pawb sy’n cofrestru fel cefnogwr lleol yn cael y newyddion diweddaraf am yr ymgyrch. Byddant hefyd yn gallu cael copïau o’n logos a’n delweddau er mwyn creu eu hadnoddau Newid am Oes eu hunain.