Pam?
Mae ffyrdd o fyw modern yn golygu nad ydym yn symud o gwmpas gymaint ag yr oeddem ers talwm, nac yn bwyta mor dda.
Y dyddiau hyn mae cymaint o gyfle i wylio’r teledu neu i chwarae ar y cyfrifiadur, a chymaint o fwydydd parod ar gael, fel nad ydyn ni’n symud cymaint nac yn bwyta cystal ag yr oedden ni’n arfer ei wneud.
Mae hynny’n golygu y gallai llawer ohonom, gan gynnwys ein plant, gael lefelau peryglus o fraster yn ein cyrff.
Mae hyn yn gallu achosi clefydau peryglus fel:
-
canser
-
diabetes math 2
-
clefyd y galon
Felly mae’n wirioneddol bwysig ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch.
Ymuno heddiw
Hoffet ti neu dy deulu fod yn fwy iach a hapus? A chael llwyth o syniadau, ryseitiau a gemau i dy helpu?
Ymuna â’r miloedd o bobl eraill yng Nghymru a chofrestra heddiw.
Ymunwch fel oedolyn
Eisiau gwneud rhai newidiadau?
Ymunwch â Newid am Oes Cymru am awgrymiadau a chyngor – am ddim!
Ymunwch fel teulu
A yw eich teulu’n symud o gwmpas ddigon ac yn bwyta’r pethau iawn?
Ymunwch â Newid am Oes Cymru am awgrymiadau a chyngor – am ddim!

